Os ydych chi'n anghytuno â'r canlyniad
Os ydych chi'n unigolyn sydd gyda budd a'ch bod chi'n anghytuno â chanfyddiadau ynglŷn â ffaith neu gasgliad yr ymchwiliad, mae'n bosibl apelio. Proses gymhleth iawn yw hon sy'n cynnwys cyflwyno cais i'r Uchel Lys am yr hyn sy'n cael ei alw yn 'adolygiad barnwrol'.
Adolygiad barnwrol:
Rhaid cyflwyno cais am adolygiadau barnwrol o fewn 3 mis o ddiwedd y gwêst. Caiff adolygiad ei ganiatáu dim ond os oes modd dangos na chafodd tystiolaeth sylweddol ei harchwilio neu os oedd afreoleidd-dra arwyddocaol o ran cynnal y gwêst.
Sut i wneud eich apêl:
Hoffech chi apelio? Ysgrifennwch at y Crwner yn y lle cyntaf, gan nodi'r rhesymau. Os bydd e'n cytuno bod sail i'r apêl, efallai bydd e'n gwneud y cais i'r Uchel Lys ei hun. Os bydd e o'r farn y dylai canlyniad sefyll mewn grym, bydd hawl gyda chi gyflwyno cais eich hun. Oherwydd ei bod hi'n broses gymhleth, byddai angen cyngor cyfreithiol arnoch chi.