Beth fydd yn digwydd yn y llys?
Ble dylwn i ddod?
Mae gwybodaeth am sut i ddod o hyd i'r llys, a ble i barcio yn yr adran gwybodaeth i dystion.
Cofiwch gyrraedd o leiaf 15 munud cyn i'r gwrandawiad gychwyn. Bydd hyn yn rhoi amser i dywysydd y llys gwrdd â chi, nodi'ch manylion, ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi.
Sut le yw ystafell y llys?
Mae'r Prif Lys yn Ardal Crwner Canol De Cymru, wedi'i lleoli yn Swyddfa'r Crwner ym Mhontypridd. Serch hynny, oherwydd maint ardal Canol De Cymru, mae'r Crwner hefyd yn defnyddio llysoedd mewn ardaloedd eraill - fel Llandrindod a'r Trallwng. Mae'r ystafelloedd llys yma'n debyg i'r rhan fwyaf o'r rhai eraill sy'n cael eu defnyddio ar gyfer achosion sifil neu droseddol.
Beth ydw i'n cael a ddim yn cael ei wneud yn ystafell y llys?
Dyw llys y Crwner ddim mor ffurfiol â rhai llysoedd, ac fe geisiwn wneud pethau mor gyfforddus ag y bo modd i deuluoedd. Er enghraifft, dyw'r Crwner ddim yn gwisgo wig neu gŵn. Rydyn ni'n parchu rhai arferion cyfreithiol, megis sefyll pan fydd y Crwner yn cyrraedd ac wrth iddo adael. Bydd tywysydd y llys yn dangos i chi beth i'w wneud. Byddwch chi'n galw 'Syr' neu 'Ma-am' ar y Crwner. Bydd y Crwner yn deall na fydd profiad o gwbl gan y rhan fwyaf o deuluoedd mewn llys, felly peidiwch â phoeni am ddefnyddio'r geiriau cywir. Caiff unrhyw sylwadau parchus neu gwestiynau groeso.
Bydd rhai gofynion ymarferol hefyd: Diffodd eich ffôn boced, dim bwyta, yfed na gwm cnoi yn ystafell y llys, a dim hetiau (heblaw am resymau crefyddol).
Beth yw trefn pethau?
Bydd y Crwner yn dechrau esbonio beth yw cwêst yng ngolwg y gyfraith, a pha faterion fydd dan ei sylw. Os oes rheithgor, byddan nhw'n cael eu tywys i'r ystafell a thyngu llw. Bydd y Crwner, wedyn, yn gofyn i bob tyst yn ei droi i ddod i'r man tystion i fynd trwy'i ddatganiad. Bydd e, fel arfer, yn dechrau gyda'r aelod o'r teulu sydd wedi darparu'r datganiad cefndir.
Os oes problemau symud gyda chi neu'ch bod chi'n teimlo'n ofnadwy o nerfus, a byddai hi'n well gyda chi roi'ch tystiolaeth ar eich eistedd, fel arfer byddai hynny'n iawn. Bydd angen i chi dyngu llw at lyfr crefyddol neu ddatganiad heb fod yn grefyddol, i gadarnhau y byddwch chi'n rhoi tystiolaeth wir. Yna, bydd y Crwner yn darllen y datganiad gwnaethoch chi, ac yn rhoi'r cyfle i chi ychwanegu ato, ei newid, neu gadarnhau'r hyn ddywedoch chi.
Ar ôl hyn, bydd y Crwner yn galw ar y tystion eraill yn eu tro. Bydd e naill ai'n mynd trwy'u datganiad gyda nhw yn yr un ffordd neu ofyn iddyn nhw gyflwyno prif ganfyddiadau'u hadroddiad. Bydd y Crwner yn gofyn unrhyw gwestiynau a fo gyda chi, ac yn gwahodd y teulu ac unrhyw unigolion eraill sydd â buddiant/diddordeb sy'n bresennol i ofynion cwestiynau a fo gyda nhw.
Os ydy'r Crwner yn caniatáu unrhyw adroddiadau ysgrifenedig i fod yn rhan o dystiolaeth, efallai bydd e'n darllen rhannau perthnasol ohonyn nhw neu ofyn i glerc y llys i wneud hynny.
Pan fydd yr holl dystiolaeth wedi'i chyflwyno, bydd y Crwner yn crynhoi'r prif bwyntiau cyn dod i'w gasgliad. Neu, os bydd rheithgor, bydd y Crwner yn crynhoi'r dystiolaeth cyn anfon y rheithgor allan i ddod i gasgliad. Bydd gan gynrychiolwyr cyfreithiol y cyfle i siarad â'r Crwner cyn iddo ddod i'w benderfyniad terfynol.
Faint bydd y broses yn cymryd?
Mae modd i wrandawiadau cwêst bara hanner awr hyd at rai dyddiau. Mae'n dibynnu ar beth sydd wedi'i ddigwydd, a pha faterion sydd angen sylw. Bydd y rhan fwyaf o gwestau'n cymryd hanner diwrnod, os hynny. Mae modd i ni roi amcan i chi pan fyddwn ni'n eich galw chi i drefnu'r dyddiad.
Beth fydd yn digwydd os ydy rhywun yn gyfrifol am farwolaeth f'anwylyn?
Mae'n bwysig cofio bod cwêst yn wahanol i brawf. Fydd hi ddim yn dod i benderfyniad ynghylch materion neu gael rhywun yn euog, rhoi bai, na dyfarnu iawndal. Ymchwiliad i ganfod y ffeithiau yw e. Mae'r materion yma'n cael eu trafod ar wahân mewn llysoedd sifil a throseddol. Fydd dim dedfryd na chosb.
Golyga hyn fod cwêst yn cael ei chynnal ychydig yn wahanol i achos/prawf llys. Er enghraifft, fydd cyfreithwyr ddim yn gwneud areithiau ar y cychwyn a'r diwedd, ac mae'r cwestiynu'n syml ac yn ffeithiol – does dim croesholi neu ymdrechion i ddal y tystion ar eu bai. Er bydd pobl yn y llys yn gobeithio am ganlyniadau gwahanol, gofynnwn ni i bawb i gydweithredu i gael cyfrif da o'r hyn ddigwyddodd.