Beth yw diben cwêst?
Mae cwêst yn ymchwiliad cyfreithiol cyhoeddus i gael yr atebion i ychydig o gwestiynau pwysig:
- Pwy oedd yr unigolyn a fu farw?
- Pryd a ble bu farw?
- Achos meddygol y farwolaeth
- Sut bu farw'r unigolyn
Fel arfer, y cwestiwn 'sut' sy'n hoelio prif sylw'r gwest. Yn ôl y gyfraith, does dim hawl gan y Crwner ddelio ag unrhyw faterion eraill.
Proses canfod y ffeithiau yw hi. Dydy hi ddim yn rhoi sylw i faterion ynghylch bai neu gyfrifoldeb, na materion ynghylch atebolrwydd troseddol neu sifil. Bydd modd mynd i'r afael â'r rhain mewn llysoedd eraill, os bydd angen.
Mae cael system cwestau effeithiol er budd y cyhoedd. Mae'n diogelu hawliau cyfreithiol teulu'r unigolyn sydd wedi marw, a phobl eraill sydd â buddiant ynghyd â thynnu sylw at y gwersi i'w dysgu a'r datblygiadau yn y byd meddygol. Mae llawer o deuluoedd yn ei chael hi o gymorth i gael y cyfle i ofyn cwestiynau, ac i wybod y byddan nhw ym meddiant y ffeithiau cywir i gyd ynglŷn â marwolaeth eu hanwyliaid erbyn diwedd y broses.