Faint bydd y broses yn ei chymryd?

Rydyn ni'n deall y byddai'r rhan fwyaf o deuluoedd yn hoffi i'r gwest ddod i ben cyn gynted ag y bo modd.  Byddwn ni'n cynnal yr ymchwiliad mor gyflym ag sy'n bosibl, gan sicrhau'n bod ni'n drylwyr.

Bydd y rhan fwyaf o gwestau yn cael eu cwblhau rhwng 3 a 6 mis ar ôl dyddiad y farwolaeth, ond mae llawer ohonyn nhw'n dod i ben yn gynt.

Bydd achosion a marwolaethau cymhleth iawn a marwolaethau a ddigwyddodd yn y ddalfa yn cymryd mwy o amser i ymchwilio iddyn nhw.  Yn y sefyllfaoedd yma, byddwn ni'n rhoi cyngor unigol i deuluoedd.