Cynrychiolaeth gyfreithiol a chymorth cyfreithiol
Bydd gan unigolion sydd gyda budd hawl i gael cynrychiolaeth gyfreithiol os ydyn nhw'i heisiau.
Yn y rhan fwyaf o gwestau lle does dim materion dadleuol, fydd aelodau o'r teulu ddim yn dod â chyfreithiwr. Mae cyfle gyda nhw i ofyn cwestiynau'u hunain os ydyn nhw eisiau.
Defnyddio cyfreithiwr:
Serch hynny, yn yr achosion mwy cymhleth, efallai bydd teuluoedd yn dewis defnyddio cyfreithiwr, a chaiff unigolion eraill sydd gyda budd, er enghraifft yr ysbyty lle cafodd yr unigolyn driniaeth, gynrychiolaeth yn ogystal. Bydd y cyfreithwyr yn gofyn cwestiynau ar ran y sawl y byddan nhw'n ei gynrychioli, ac mae hawl gyda nhw i siarad â'r Crwner ar faterion yn ymwneud â'r gyfraith.
Arian cymorth cyfreithiol:
Fel arfer fydd cymorth cyfreithiol ddim ar gael ar gyfer cynrychiolaeth mewn cwestau. Rhaid i deuluoedd dalu am gymorth cyfreithiol eu hunain. Y peth gorau i'w wneud yw siarad â chwmni o gyfreithwyr i gael cyngor am yr hyn sy'n bosibl. Mewn ychydig o gwestau sy mor gymhleth fel nad oes modd eu cynnal os nad oedd cynrychiolaeth ar ran y teulu bydd cyllid ar gael, weithiau.
Fydd rhai cwmnïau o gyfreithwyr ddim yn gwneud gwaith cwestau. Os byddwch chi'n cael anhawster o ran cael cyfreithwyr i'ch cynrychioli, rhowch wybod i ni, a byddwn ni'n awgrymu rhai pobl.
O dan Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009 newydd a ddaeth i rym ym mis Gorffennaf 2013, caiff unigolion sydd â buddiant/diddordeb ddewis cynrychiolydd sydd heb gymhwyso yn gyfreithiwr. Ond, pwyll piau hi cyn penderfynu ar y trywydd yma.
.