Pam mae cwêst wedi'i hagor?
Yn ôl y gyfraith, mae rhaid i'r Crwner gychwyn ymchwilio i farwolaeth os oes achos rhesymol dros amau bod y farwolaeth o ganlyniad i rywbeth heb fod yn "achosion naturiol". Does dim diffiniad cyfreithiol penodol o achos 'naturiol' o farwolaeth. Serch hynny, disgrifiad cyffredin ydy 'marwolaeth o ganlyniad i glefyd yn rhedeg ei gwrs llawn heb unrhyw ffactorau ymyrrol'.
Rhaid i'r Crwner agor cwêst i'r holl achosion o farwolaeth lle'r oedd y sawl sydd wedi marw yng ngofal neu warchodaeth y Wladwriaeth. Mae hyn i roi cymorth i ddiogelu'r bobl fregus yma.
Bydd y Crwner, felly, yn agor y gwest yn yr amgylchiadau canlynol:
- Mae achos y farwolaeth yn ôl yr archwiliad post mortem heb fod yn naturiol
- Ar gyfer cwestau sy'n cael eu hagor heb archwiliad post mortem, mae'r meddyg sy'n rhoi adroddiad yn nodi nad yw achos y farwolaeth yn naturiol
- Mae achos y farwolaeth heb ei ganfod yn yr archwiliad post mortem cychwynnol
- Mae gwybodaeth i'w chael sy'n rhoi achos rhesymol i amau bod y farwolaeth heb fod yn un naturiol
- Roedd y sawl a fu farw yng ngofal neu warchodaeth y Wladwriaeth adeg y farwolaeth
Mae gan y Crwner ddewis i gychwyn ymchwiliad yn hytrach nag agor cwêst. Mae rhagor o fanylion ynglŷn â hyn ar y dudalen nesaf.