Casglu gwybodaeth a mynegi pryderon
Dystiolaeth:
Pan fydd Crwner yn agor cwêst, bydd e'n cyfarwyddo'i swyddogion i roi ffeil at ei gilydd o dystiolaeth ar bapur. Bydd eisiau mathau gwahanol o dystiolaeth gan ddibynnu ar amgylchiadau'r farwolaeth.
Manylion cefndir personol ac iechyd yr ymadawedig:
Yn aml, bydd y ffeil yn cynnwys adroddiad oddi wrth aelod o'r teulu am gefndir personol yr unigolyn sydd wedi marw ac unrhyw wybodaeth sy'n hysbys am ei iechyd. Bydd Swyddog yr Heddlu neu Swyddog y Crwner yn cymryd y datganiad oddi wrth yr aelod o'r teulu naill ai drwy gwrdd, neu dros y ffôn. Nid y perthynas agosaf, o reidrwydd, sy'n gwneud y datganiad. Bydd y Swyddog yn siarad â phwy bynnag yw'r unigolyn gorau i roi'r wybodaeth a bod hwnnw neu honno'n teimlo y bydd e/hi'n gallu ymdopi â hynny.
Pryderon am amgylchiadau yn ymwneud â marwolaeth ymadawedig:
Os oes pryderon gan aelodau o'r teulu am unrhyw un o'r amgylchiadau ynghylch marwolaeth y person sydd wedi marw, mae modd iddyn nhw'u mynegi pan fyddan nhw'n gwneud y datganiad, os ydyn nhw'n dymuno gwneud hynny. Neu, efallai y byddai hi'n well gyda nhw ysgrifennu llythyr ar wahân at y Crwner ar ôl sbel i feddwl am bethau. Bydd y Crwner yn cymryd unrhyw bryderon y teuluoedd o ddifrif, ac mae'n ceisio i fynd i'r afael â'r pryderon hynny gymaint ag y bo modd. Ond yn ôl y gyfraith, dim ond materion sy'n ymwneud â'r 4 cwestiwn (uchod) sy'n destun y gwêst y mae hawl iddo ymchwilio iddyn nhw.
Ffeil yr ymadawedig:
Yn ogystal â'r datganiad ynglŷn â chefndir personol, bydd y ffeil yn cynnwys adroddiad yr archwiliad post mortem, os oedd un. Hwyrach bydd adroddiad ychwanegol gan feddygon, nyrsys, Swyddogion yr Heddlu, tystion neu unrhyw bobl eraill y mae'r Crwner o'r farn sy'n briodol. Ambell waith bydd y Crwner yn comisiynu adroddiad barn arbenigol annibynnol. Mae pob ffeil yn unigryw.