A fydd rheithgor yno?

Yn y rhan fwyaf o gwestau, fydd dim rheithgor, a'r Crwner fydd yn dyfarnu'r achos ar ei ben ei hun.

Ond, bydd angen rheithgor o bryd i'w gilydd.  Bydd hyn yn digwydd os bu farw'ch anwylyd yn y ddalfa/dan warchodaeth, neu os oedd y farwolaeth yn gysylltiedig â'i weithredoedd ei hun - neu rhai gan bobl eraill - yn y gwaith.   Efallai bydd y Crwner yn penderfynu defnyddio rheithgor mewn achosion eraill hefyd, os yw o'r farn y byddai hynny o gymorth neu os oes ganddo reswm da arall.  Os bydd rheithgor yng nghwest eich perthynas, bydd eich Swyddog Achos yn rhoi gwybod i chi ymlaen llaw.

P'un ai fod rheithgor neu beidio, fydd dim llawer o wahaniaeth o ran cynnal y gwêst.  Byddwch chi'n gweld y rheithgor yn y llys, tra bydd yr holl dystion yn rhoi'u tystiolaeth.  Ar ddiwedd y gwêst, bydd y Crwner, yn hytrach na rhoi dyfarniad ei hunan, yn rhoi i'r rheithgor ddewis o ddyfarniadau posibl, a bydd aelodau o'r rheithgor yn mynd ati i ddewis yr un mwyaf priodol, yn eu tyb nhw.