Pa farwolaethau y mae rhaid hysbysu'r Crwner yn eu cylch?
Dyw tua hanner o'r holl farwolaethau ddim yn mynd at sylw'r Crwner o gwbl. Fodd bynnag, rhaid hysbysu'r Crwner am unrhyw farwolaeth sy'n dechrau'r broses o ran Rheoliadau Hysbysu am Farwolaeth 2019 ( Canllawiau i ymarferwyr meddygol cofrestredig ar y Rheoliadau Hysbysu am Farwolaethau)
Mae nifer o fathau o farwolaeth y mae'n rhaid eu hadrodd bob amser:
· Marwolaethau a allai fod yn gysylltiedig â thriniaeth feddygol, llawdriniaeth neu anesthetig
· Marwolaethau a allai fod yn gysylltiedig â damwain, waeth pa mor hir yn ôl oedd hi
· Os oes posibilrwydd bod y person wedi gwneud ei ddiwedd ei hun
· Os oes unrhyw amgylchiadau amheus neu hanes o drosedd
· Marwolaethau allai fod yn ymwneud â gwaith yr unigolyn, er enghraifft os ydyn nhw wedi dod i gysylltiad ag asbestos
· Marwolaethau pobl sydd dan warchodaeth/yn y ddalfa sydd wedi'u cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl, hyd yn oed os achosion naturiol oedd y rheswm.
· Rhai afiechydon anarferol gan gynnwys hepatitis a thwbercwlosis
Fodd bynnag, nid yw pob marwolaeth yn cael ei chyfeirio at y Crwner. Yn dilyn newidiadau gan y Llywodraeth ym mis Medi 2024, mae angen i'r Gwasanaeth Archwilydd Meddygol graffu ar bob marwolaeth, a fydd yn darparu penderfyniad annibynnol ar y marwolaethau dydy'r Crwner ddim yn ymchwilio iddyn nhw. Bydd yr archwiliad yma'n cael ei gynnal gan Archwilydd Meddygol sy'n Feddyg profiadol ac sydd wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol mewn ardystio marwolaeth ac sydd wedi adolygu dogfen amgylchiadau'r farwolaeth.
Mae modd i'r Archwilydd Meddygol gyfeirio'r farwolaeth yn uniongyrchol at y Crwner os yw o'r farn ei fod yn dechrau'r broses ran Rheoliadau Hysbysiadau am Farwolaeth 2019.
Os ydych chi'n dal yn ansicr pam mae marwolaeth eich perthynas wedi'i hadrodd, ffoniwch ni a bydd Swyddog yn trafod gyda chi.
Fel arfer, meddygon a'r Heddlu sy'n rhoi gwybod. Pan fydd adroddiad yn cyrraedd y swyddfa, mae'r Crwner yn ei gael. Bydd e'n adolygu'r wybodaeth a phenderfynu beth ddylai gael ei wneud. Mae'r adrannau nesaf yn trafod y posibiliadau gwahanol.