Cofrestru a threfniadau angladd
Pryd caf i gofrestru marwolaeth fy mherthynas?
Os ydy'r Crwner yn cadarnhau bod marwolaeth o ganlyniad i achosion naturiol ar ôl darllen adroddiad y meddyg, mae modd i chi gofrestru'r farwolaeth. Dylech chi wneud hyn cyn pen 5 diwrnod o'r farwolaeth, a bydd y cofrestrydd yn rhoi gwaith papur i chi i gynnal yr angladd.
Os ydy'r Crwner yn cadarnhau marwolaeth oherwydd achosion naturiol ar ôl archwiliad post mortem, byddwn ni'n dweud wrthoch chi y cewch chi gofrestru pan fyddwn ni'n eich ffonio gyda chanlyniad y post mortem. Unwaith eto, dylech chi wneud hyn yn ystod y dyddiau nesaf. Os ydych chi wedi dewis gwasanaeth claddu, bydd y cofrestrydd yn rhoi'r gwaith papur i chi ar gyfer bwrw ymlaen â'r gwasanaeth. Os ydych chi wedi dewis gwasanaeth amlosgi, bydd Swyddfa'r Crwner yn rhoi awdurdod i'ch trefnydd angladdau ar gyfer y gwasanaeth. Bydd yr un peth yn digwydd os bydd y Crwner yn dod ag ymchwiliad i ben ar ôl canfod mai achosion naturiol oedd y farwolaeth.
Os bydd y Crwner yn agor cwêst, fydd dim angen i chi gofrestru'r farwolaeth o gwbl. Byddwn ni'n anfon tystysgrifau marwolaeth dros dro y mae modd ichi'u defnyddio i reoli'r ystad. Unwaith i'r gwêst gael ei chynnal, byddwn ni'n cofrestru'r farwolaeth ar eich rhan. Yna, bydd modd ichi ffonio'r cofrestrydd ac archebu tystysgrifau marwolaeth terfynol i gael eu hanfon atoch chi.
Ble caf i gofrestru?
I gofrestru marwolaeth yn ardal Rhondda Cynon Taf, cysylltwch â:
Y Swyddfa Gofrestru,
Adeiladau'r Cyngor
Heol Gelliwastad
Pontypridd
CF37 2DP
Ffôn: 01443 494024
I gofrestru marwolaeth yn ardal Merthyr Tudful, cysylltwch â:
Y Swyddfa Gofrestru
26 High Street
Merthyr Tudful
CF47 8DP
Ffôn: 01685 727333
I gofrestru marwolaeth yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, cysylltwch â:
Y Swyddfa Gofrestru
Tŷ'r Ardd,
Sunnyside
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 4AR
Ffôn: 01656 864944
I gofrestru marwolaeth yn ardal Powys, cysylltwch â:
Swyddfa Gofrestru Gyffredinol
Y Gwalia
Ithon Road
Llandrindod
Powys
LD1 6AA
Ffôn: 01597 827468
I gofrestru marwolaeth yn ardal Caerdydd, cysylltwch â:
Swyddfa Gofrestru Caerdydd
Neuadd y Ddinas
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3ND
Ffôn: 029 20871680 / 20871684
I gofrestru marwolaeth yn ardal Bro Morgannwg, cysylltwch â:
Y Swyddfa Gofrestru
Swyddfeydd Dinesig
Holton Road
Y Barri
Bro Morgannwg
CF63 4RU
Ffôn: 01446 700111
Unwaith y cewch chi wybod bod hawl gyda chi i gofrstru'r farwolaeth, ffoniwch Swyddfa'r Cofrestrydd (rhif ffôn uchod) i drefnu apwyntiad. Efallai bydd rhaid i chi aros sbel os galwch chi heibio heb drefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Beth mae cofrestru'n ei gynnwys?
Bydd yr apwyntiad yn cymryd tua hanner awr, a byddwch chi'n casglu copïau o'r dystysgrif marwolaeth a'r gwaith papur, os ydy hynny'n berthnasol, i fwrw ymlaen â'r angladd.
Mae'r Crwner wedi mynnu archwiliad post mortem. Beth ydw i'n ei wneud am yr angladd?
Pan fydd y Crwner yn mynnu archwiliad post mortem, fydd dim modd i ni, yn anffodus, i roi dyddiad penodol ar gyfer rhyddhau'r corff. Mae hyn yn dibynnu ar yr hyn mae'r Patholegydd yn ei weld a pha gamau nesaf sydd eu hangen.
Mae croeso i deuluoedd ddewis eu trefnydd angladdau a phenderfynu popeth am y gwasanaeth, ond peidiwch â threfnu dyddiad pendant. Os byddwch chi'n sôn wrth eich trefnydd angladdau bod y Crwner ynglŷn â phethau, bydd yn gyfarwydd â'r broses ac yn gwybod beth i'w wneud. Pan fydden ni'n dweud wrthoch chi fod y Crwner wedi rhyddhau'r corff, yna mae croeso ichi fwrw ymlaen â phennu dyddiad.
Yn ôl synnwyr y fawd gyda golwg ar eich cynllunio, mae'n well trefnu dyddiad dros dro ar gyfer yr angladd 10 diwrnod neu ragor ar ôl inni roi gwybod ichi fod post mortem wedi'i alw. Serch hynny, dyw hyn ddim yn sicr, a does dim modd i ni gymryd cyfrifoldeb am fodloni dyddiadau angladd sydd wedi'u trefnu yn erbyn ein cyngor ni.
Yr un cyngor sy'n wir yn achos dychwelyd corff i famwlad – peidiwch â threfnu'r daith nes i ni gadarnhau bod modd rhyddhau'r corff.
Nodyn pwysig ynghylch dewis trefnydd angladdau
Os bu farw'ch perthynas y tu allan i'r ysbyty, efallai bydd y corff wedi mynd i gorffdy'r ysbyty gan drefnydd angladdau penodol sydd dan gontract i Swyddfa'r Crwner. Dyw hyn ddim o reidrwydd yn golygu bod rhaid defnyddio'r trefnydd yma i gynnal yr angladd. Croeso i chi ddewis unrhyw drefnydd angladdau, yn ôl eich dymuniad.