Gwrthwynebu post mortem ac ystyriaethau crefyddol

Rydyn ni'n gwybod bod rhai teuluoedd yn gwrthwynebu cynnal archwiliad post mortem ar eu hanwylyn.  Rydyn ni'n deall ac yn parchu'r gwrthwynebiadau yma.  Serch hynny, mae rhaid cynnal y gyfraith, a'i gweithredu mewn modd sy'n deg i bawb. 

Mae'r awdurdod gyda'r Crwner i ddod i'r penderfyniad terfynol, ac os bydd angen, caiff e fynnu archwiliad post mortem, hyd yn oed os nad yw'r teulu yn cytuno.  Mae hynny'n sefyllfa anodd iawn, wrth reswm, a byddwn ni'n gwneud popeth posibl i fod yn gefn i chi, a chadw unrhyw oedi ynglŷn â'ch trefniadau angladd i'r lleiaf posib.

Pam mae rhaid cael post mortem?

Yn ôl y gyfraith, mae rhaid i'r Crwner alw am archwiliad post mortem os ydy achos y farwolaeth o bosib yn annaturiol neu'n anhysbys.  Gwelwch yr adran ar archwiliadau post mortem am esboniad manwl.

Cofiwch, fydd y Crwner byth yn mynnu post mortem heb bwyso-a-mesur yn ofalus yn gyntaf.  Os bydd hi'n debygol roedd y farwolaeth o ganlyniad i achosion naturiol, fe wnawn ni bob ymdrech i gael hyd i feddyg sy'n cael ardystio achos y farwolaeth.  

Oes hawl apelio yn erbyn y penderfyniad?

Mae hawl gyda theuluoedd i fwrw sylwadau trwy ysgrifennu at y Crwner.  Croeso gwneud hyn naill ai drwy e-bost neu drwy lythyr.  Gadewch i ni wybod os ydych chi'n bwriadu gwneud hyn. Fyddwn ni ddim yn dechrau'r archwiliad post mortem nes bod y Crwner wedi bwrw golwg ar yr wybodaeth ychwanegol rydych chi wedi'i rhoi, ac rydyn ni wedi siarad â chi am ei benderfyniad. 

Oes modd mynnu Patholegydd o'r un rhyw â f'anwylyn i?

Os ydy hyn yn bwysig i chi, byddwn ni'n rhoi gwybod i'r ysbyty.  Serch hynny, fydd dim modd i'r ysbyty na ninnau sicrhau pa feddyg a fydd yn cynnal yr archwiliad. 

Oes rhyw ffordd o gyflymu'r broses?

Pan fyddwn ni'n gwybod bod teulu'n dymuno cynnal angladd cyn gynted ag y bo modd, byddwn ni'n rhoi gwybod i'r ysbyty.  Bydd yr ysbyty, wedyn, yn cynnal yr archwiliad post mortem cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny.  Yn anffodus, efallai na fydd hynny ar unwaith, gan ddibynnu ar faint y cyfleusterau post mortem a'r meddygon sydd ar gael.  Oherwydd hyn, dydyn ni ddim yn rhoi amserlenni.  Serch hynny, bydd modd, fel arfer, i ryddhau'r corff ar ôl dau neu dri diwrnod, yn hytrach na'r pum diwrnod arferol.

Mae'n bwysig iawn nad ydych chi'n trefnu dyddiad ar gyfer yr angladd neu drefnu dychwelyd y corff i'r wlad nes bydd y Crwner wedi dod i ben â'i ymchwiliadau.

Mae rhai teuluoedd wedi ceisio cyflymu'r broses trwy ffonio neu alw heibio i'r swyddfa byth a hefyd.  Er ein bod ni'n deall yr elfen o frys sydd gyda chi, fydd hyn ddim yn cyflymu'r broses yn y pendraw.  Rydyn ni'n gwneud popeth y gallwn ni'n barod.  Y ffordd fwyaf ymarferol, yn fy mhrofiad i, yw i'r teulu bennu rhywun i gyfathrebu â'r swyddfa a byddwn ni'n rhoi gwybod iddyn nhw am yr holl ddatblygiadau.