Beth fydd y Crwner yn ei wneud yn syth ar ôl i'ch perthynas farw

Rydyn ni'n deall bod delio â materion cyfreithiol yn dilyn marwolaeth yn beth heriol, a hithau'n adeg anodd iawn i chi yn barod.  Byddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu. Mae'r tudalennau yma'n egluro popeth fydd yn digwydd rhwng adrodd marwolaeth eich perthynas i'r Crwner a rhyddhau'r corff ar gyfer yr angladd.

Pan gaiff y swyddfa wybod am farwolaeth, bydd y Crwner yn ystyried y wybodaeth ac yn gwneud un o bedwar peth:

1.  Penderfynu bod y farwolaeth wedi digwydd o ganlyniad i achosion naturiol a rhoi gwybod i'r Meddyg y dylid cyflwyno’r achos marwolaeth i'r Gwasanaeth Archwilio Meddygol er mwyn ei drafod a'i graffu.  Yn dilyn y gwaith craffu yma, os yw'r Archwilydd Meddygol yn gallu cefnogi'r achos marwolaeth a gynigiwyd, yna bydd y dystysgrif yn cael ei hysgrifennu gan y Meddyg a'i hanfon at yr Archwilydd Meddygol i'w chydlofnodi. 

2.      Trefnu archwiliad post mortem. Gan ddibynnu ar y canlyniadau, bydd y Crwner naill ai yn (a) dyfarnu bod y farwolaeth yn un naturiol ac yn cau'r achos; (b) cychwyn ymchwiliad, lle byddwn ni'n cael rhagor o wybodaeth oddi wrth feddygon a phobl eraill berthnasol; neu (c) agor cwêst, sy'n wrandawiad llys i ganfod y ffeithiau ynglŷn ag amgylchiadau'r farwolaeth. 

3.      Agor ymchwiliad heb archwiliad Post Mortem i gasglu mwy o dystiolaeth.

4.      Agor cwest heb archwiliad Post Mortem.


Mae pob un o'r opsiynau yma'n cael eu hesbonio isod.

Serch hynny, nid yw pob marwolaeth yn cael ei chyfeirio at y Crwner.  Yn dilyn newidiadau'r Llywodraeth ym mis Medi 2024, mae gofyn i'r Gwasanaeth Archwilio Meddygol graffu ar bob marwolaeth lle mae Tystysgrif Feddygol Achos Marwolaeth yn cael ei chyhoeddi gan feddyg. Bydd y gwasanaeth yn darparu craffu annibynnol mewn perthynas â phob marwolaeth nad yw'r Crwner yn ymchwilio iddi. Bydd Archwilydd Meddygol sydd hefyd yn Feddyg profiadol ac sydd wedi cyflawni hyfforddiant ychwanegol mewn perthynas ag ardystio marwolaethau yn cynnal y gwaith craffu, ochr yn ochr ag adolygiad o'r dogfennau sy'n cynnwys manylion amgylchiadau'r farwolaeth.

Rydyn ni'n deall bod llawer o deuluoedd yn poeni am y broses, yn enwedig a ydy hi'n golygu gohirio'r angladd.  Byddwn ni'n ceisio cwblhau ymholiadau'r Crwner cyn gynted ag y bo modd er mwyn cadw unrhyw oedi i'r lleiaf posibl.  Mae'r tudalennau'n cynnwys gwybodaeth am yr amserlenni y gallwch chi'u disgwyl, a beth i'w wneud o ran trefniadau angladd.

Bydd pob croeso ichi siarad â ni os oes cwestiynau gyda chi.  Mae modd ffonio Swyddogion y Crwner rhwng 8:30am a 3pm ar 01443 281100 neu drwy anfon e-bost i  Crwner.Gweinyddu@rhondda-cynon-taf.gov.uk.