Os nad oes angen i'r Crwner fod ynglŷn â'r achos
Beth sy'n digwydd?
Os bydd marwolaeth yn dechrau'r broses Rheoliadau Hysbysiad am Farwolaeth 2019, mae adroddiad yn cael ei roi i'r Crwner i benderfynu ar y cam nesaf.
Mewn rhai achosion, bydd y Crwner yn adolygu'r adroddiad a'i fodloni bod yr unigolyn wedi marw o achosion naturiol. Does dim angen iddo ymchwilio ymhellach. Byddwn ni'n gwneud y gwaith papur er mwyn rhoi gwybod i Swyddfa’r Archwilydd Meddygol am fanylion y farwolaeth a chyfarwyddyd y Crwner nad oes angen ymchwiliad pellach.
Yna, caiff y teulu gofrestru'r farwolaeth yn y Gofrestrfa (Swyddfa Gofrestru). Unwaith i hyn gael ei wneud, bydd modd cynnal yr angladd.
Bydd Swyddfa’r Archwilydd Meddygol cysylltu â chi i roi gwybod i chi bod hyn wedi digwydd, a sut mae mynd ati i gofrestru'r farwolaeth.
Pa mor hir y bydd hynny'n ei gymryd?
Yn gyffredinol, rydyn ni'n cwblhau ymholiadau'n gyflym iawn. Os ydych chi'n rhoi gwybod am farwolaeth yn ystod oriau swyddfa, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud yr un diwrnod fel arfer. Weithiau mae modd i'r broses gymryd mwy o amser os oes angen i ni gasglu gwybodaeth gan feddygon. Yn yr achosion yma, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi. Fodd bynnag, ar ôl i ni gyhoeddi ein gwaith papur a rhoi gwybod i Swyddfa’r Archwilydd Meddygol, hi fydd yn gyfrifol am gadarnhau bod modd i'r meddyg gyhoeddi’r dystysgrif marwolaeth.