Deall canlyniadau'r post mortem

Unwaith i'r Patholegydd anfon canlyniad yr archwiliad post mortem, byddwn ni'n ffonio'r berthynas agosaf i esbonio'r canfyddiadau.

Bydd y canlyniadau Post mortem wedi'u trefnu mewn ffurf benodol bob tro.  Yr un yw'r ffurf sydd ar y dystysgrif farwolaeth derfynol oddi wrth y Swyddfa Gofrestru.
   1a Yr afiechyd neu gyflwr sy'n gyfrifol am achosi'r farwolaeth
   1b Achos sylfaenol 1a
   1c Achos sylfaenol 1b
   2 Unrhyw afiechyd neu gyflwr nad oedd wedi achosi'r farwolaeth ond a gyfrannodd ati mewn rhyw ffordd.

Does dim eisiau llenwi adrannau  1b, 1c neu 2 bob tro.

Dyma enghraifft o achos naturiol syml marwolaeth:
   1a Cnawdnychiad Myocardaidd
   1b Atheroma rhydweli coronaidd
   1c --
   2 Clefyd Siwgr

Byddwn ni'n esbonio hyn trwy ddweud mai prif achos y farwolaeth oed cnawdnychiad myocardaidd, sy'n derm meddygol am drawiad ar y galon.  Cafodd hwn ei achosi gan atheroma rhydweli coronaidd, sef y rhydwelïau'n 'caledu' neu 'fagu cen' – cyflwr sy'n lleihau'r cyflenwad gwaed i'r galon.  Roedd clefyd y siwgr ar yr unigolyn yn y cefndir yn ogystal.

Er bydd modd inni esbonio achosion y farwolaeth ar sail canfyddiadau'r patholegydd, does dim hanes meddygol llawn eich perthynas gyda ni.  Os oes cwestiynau gyda chi am ei achos unigol neu am y driniaeth gawson nhw, efallai mai da o beth fyddai siarad â meddyg yn yr ysbyty neu'r meddyg teulu.