Os oes pryderon/cwynion gyda chi ynglŷn â'r amgylchiadau ynghylch y farwolaeth
Os oes pryderon gyda chi ynglŷn ag amgylchiadau marwolaeth eich perthynas (megis ei driniaeth feddygol neu'i ymwneud â'r heddlu), byddwch gystal â rhoi gwybod i ni. Efallai bydd y pryderon a godwch chi yn rhoi gwybodaeth gefndirol werthfawr mewn perthynas ag ymholiadau'r Crwner.
Weithiau byddwn ni'n awgrymu y byddai'n fwy buddiol i chi roi gwybod i sefydliad arall, fel arfer Gwasanaeth Cyswllt â Chleifion yr ysbyty. Dyw hyn ddim yn golygu nad ydyn ni'n cymryd eich pryderon o ddifrif. Y rheswm am hyn yw achos eu bod nhw tu allan i gylch gorchwyl y Crwner.
Pe hoffech chi roi gwybod i ni am eich pryderon, gwnewch hynny ar bapur neu drwy e-bost. Os ydy cwêst wedi'i hagor, mae modd i chi hefyd anfon rhestr o gwestiynau yr hoffech chi'u gofyn. Byddwch gystal ag ysgrifennu mor glir a chryno ag y gallwch chi i geisio esbonio'r materion yn y drefn digwyddon nhw.
Os nad yw'r Crwner yn gwybod am y farwolaeth o gwbl, neu os nad oes archwiliad post mortem wedi'i alw ond rydych chi o'r farn y dylai fod un, mae croeso i chi roi gwybod i ni a byddwn ni'n ymchwilio i'r mater. Cofiwch roi gwybod i ni cyn gynted ag sy'n bosibl, os oes pryderon fel hyn gyda chi.