Mynd â chryff allan o Gymru a Lloegr (dychwelyd cyrff i'w mamwlad)

Rhaid i chi gael caniatad y Crwner cyn symud corff allan o Gymru a Lloegr (gan gynnwys yr Alban).  Fel arfer, y Crwner ar gyfer yr awdurdodaeth lle bu farw'r unigolyn fydd hyn.  Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os achosion naturiol llwyr oedd y farwolaeth a doedd dim angen rhoi gwybod i'r Crwner cyn ei chofrestru.

Os ydych chi eisiau dychwelyd corff eich perthynas i'w famwlad, bydd eich trefnydd angladdau'n gwneud y trefniadau i chi.  Bydd eisiau iddo gysylltu â'r swyddfa gan ddefnyddio'r ffurflen gais sydd wedi'i hatodi, a chyflwyno copi o'r dystysgrif marwolaeth, oni bai bod cwêst wedi'i hagor.  Mae hyn yn golygu bod rhaid i chi gofrestru'r farwolaeth cyn trefnu dychwelyd y corff i'w famwlad.

Mae'r rheoliadau sy'n ymwneud â dychwelyd corff i famwlad yn gofyn am roi rhybudd 5 diwrnod i'r crwner.

Unwaith y daw'r cais i law, fe allai hi gymryd hyd at ddiwrnod gwaith i gael awdurdod â llofnod gan y Crwner.  Mae hyn yn ychwanegol at unrhyw amser sydd ei angen ar gyfer archwiliad post mortem, adnabod y corff, ac ati, os ydy hynny'n berthnasol i'ch anwylyn.  Felly, fe all hi gymryd hyd at 5 diwrnod gwaith i ryddhau corff sy'n cael ei gludo o Gymru neu Loegr.  Ddylai trefnwyr angladdau ddim trefnu teithiau dychwelyd corff nes eu bod nhw wedi cael yr awdurdod â llofnod.  Yn anffodus, fyddwn ni ddim yn cymryd cyfrifoldeb am unrhyw deithiau sydd wedi'u trefnu yn erbyn ein cyngor.

Does dim angen awdurdod gan y Crwner i ddychwelyd lludw amlosgi.  Os byddech chi'n eu cludo mewn awyren, cysylltwch â'ch cwmni hedfan am gyngor ynglŷn â'u trefniadau penodol.