Ymweliadau at ddibenion ymchwil neu ddatblygu proffesiynol
Mae'r Crwner a'i dîm yn cydnabod pwysigrwydd addysg a phrofiad gwaith ymarferol ar gyfer hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon, nyrsys, cyfreithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill. Byddwn ni'n croesawu pobl i wylio gwrandawiadau, ac efallai byddwn ni'n cynnig y cyfle i gwrdd â'r Crwner, gan ddibynnu ar ei ddyddiadur, neu un o'r Crwneriaid Cynorthwyol.
Cais i arsylwi achos:
Mae'r gwrandawiadau i gyd, bron, yn cael eu cynnal mewn llys agored, felly mewn egwyddor, byddai modd i ymwelwyr ddod i'w gwylio. Serch hynny, gofynnwn ni i chi drefnu'ch ymweliad gyda ni ymlaen llaw a fydd o gymorth ynglŷn â'n cynllunio ac i ofalu'ch bod chi'n gweld achos sy'n berthnasol i'ch maes o astudiaeth.
Hoffech chi drefnu ymweliad gwylio undydd? Anfonwch neges e-bost i'r swyddfa Crwner.Gweinyddu@rhondda-cynon-taf.gov.uk i roi gwybod i ni am:
- Pwy ydych chi?
- Pa sefydliad ydych chi'n gweithio drosto/astudio ynddo, a'ch maes
- Dyddiadau dros y mis nesaf y byddech chi ar gael i ddod
Byddwn ni'n anfon e-bost atoch chi gan gadarnhau lle ar eich cyfer chi ar un o'r dyddiadau rydych chi wedi'u nodi. Os oes grŵp o fyfyrwyr sy'n dilyn yr un cwrs, mae rhwydd hynt i un o'u plith drefnu'r ymweliad ar ran pawb. Fel arfer dim ond grwpiau o hyd at 4 mae modd i ni dderbyn, oherwydd maint yr ystafell.
Cyrraedd y cwest:
Bydd gofyn i chi gyrraedd 15 munud cyn i'r gwrandawiad cyntaf ddechrau. Gwisgwch yn drwsiadus, er parch teulu'r person sydd wedi marw. Dewch â llun adnabod eich sefydliad academaidd/eich gweithle, os oes un gyda chi. Bydd cyfle i chi fynd i gaffi lleol am ginio. Bydd y diwrnod yn y llys yn gorffen rhwng 4.00pm a 5.00pm. Os bydd angen ichi adael cyn i'r achos olaf ddod i ben, mae croeso ichi adael yn dawel iawn.
Profiad gwaith:
Os oes diddordeb gyda chi mewn profiad gwaith dros gyfnod hir, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol at y Crwner a fydd yn eu darllen.
Coroner's Office
The Old Courthouse
Courthouse Street
Pontypridd
CF37 1JW