Cyrraedd Llys y Crwner
I'r rhan fwyaf o bobl, lle digon anghyfarwydd yw Llys y Crwner. Yn wir, dyw rhai gweithwyr proffesiynol yn y byd meddygol hyd yn oed ddim yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Fel arfer, dim ond unwaith neu ddwywaith trwy gydol eu gyrfa y bydd gofyn iddyn nhw ddod.
Yn y rhan yma o'r wefan, byddwn ni'n esbonio sut mae cyrraedd Llys y Crwner, beth fydd yn digwydd yn rhan o'r ymchwiliad/cwest, a'ch rhan chithau yn y broses. Cewch chi hefyd fanylion am hawlio treuliau os byddwch chi'n dod.
Os oes unrhyw gwestiynau o hyd gyda chi ar ôl i chi ddarllen y tudalennau yma, ffoniwch swyddfa'r Crwner ar 01443 281100 rhwng 8:30am a 2:30pm neu anfonwch e-bost i Crwner.Gweinyddu@rhondda-cynon-taf.gov.uk. Mae'r swyddfa ar agor i ymwelwyr o 8am tan 4pm.