Hygyrchedd a chymorth i bobl sy'n siarad ieithoedd eraill
Mae gan bawb yr hawl i fod yn bresennol yn y llys, ac i fod yn rhan o broses yr ymchwiliad. Os oes anghenion gyda chi o ran materion mynediad/hygyrchedd nad ydyn ni'n sôn amdanyn nhw ar y dudalen yma, rhowch wybod i ni a byddwn ni'n trafod posibiliadau gyda chi.
Mae'n hystafelloedd llys i gyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae tŷ bach sy'n addas i bawb gerllaw.
Mae system dolen glyw i'w chael yn yr ystafelloedd llys
Mae modd cyflwyno copïau o adroddiadau a datganiadau mewn print mwy ar gais.
Byddwn ni'n trefnu cyfieithydd os nad yw aelodau o deulu yn medru'r Saesneg. Ydych chi'n gwybod bod angen cyfieithydd arnoch chi neu ar eich teulu? Rhowch wybod i ni ar unwaith.