Tystion eraill nad ydyn nhw'n weithwyr meddygol

Mae'r dudalen yma ar gyfer gweithwyr proffesiynol – ond nid ar gyfer meddygon, nyrsys cofrestredig a bydwragedd sydd wedi cael cysylltiad ag unigolyn sydd wedi marw.  Efallai bydd y gweithwyr proffesiynol yma'n cynnwys cynorthwywyr gofal iechyd, gweithwyr cymorth neu reolwr gwasanaeth.  Mae hyn hefyd yn cynnwys pobl sydd wedi dod i gysylltiad â'r unigolyn, ond ddim yng nghyd-destun eu gwaith.  Tyst i ddamwain, er enghraifft.

Tystion eraill nad ydyn nhw'n weithwyr meddygol

Mae'r Crwner wedi gofyn i chi ddod i'r llys, achos ei fod o'r farn bod gwybodaeth gyda chi a allai daflu goleuni ar farwolaeth unigolyn.  Mwy na thebyg y byddwch chi wedi gwneud datganiad neu ysgrifennu adroddiad.  Bydd y Crwner hefyd yn gofyn i chi roi tystiolaeth ar lafar a bod ar gael i ateb cwestiynau.

Pennu dyddiad ac amser ar gyfer cwest:

Wedyn, byddwch chi'n cael llythyr sy'n nodi dyddiad ac amser yr ymchwiliad.  Byddwch gystal â llenwi'r bonyn a'i anfon yn ôl i'r swyddfa.  Hwyrach y bydd eisiau i ni, o bryd i'w gilydd, gyflwyno gŵys ffurfiol i dyst, naill ai trwy'r post neu'i chyflwyno â llaw.  Unwaith eto, llenwch y bonyn ateb a'i anfon yn ôl aton ni.

Sut i ddod o hyd i ni?

Gweld manylion sut i ddod o hyd i ni.

Cyrraedd y cwest:

Cofiwch gyrraedd o leiaf 10 munud cyn i'r gwrandawiad gychwyn.  Does dim gwisg ffurfiol, ond gofynnwn i bobl i wisgo'n drwsiadus neu yng ngwisg eu gwaith o ran parch at deulu'r unigolyn sydd wedi marw. 

Cael eich galw i stondin y tystion:

Diben yr ymchwiliad yw casglu'r effeithiau am yr unigolyn sydd wedi marw, pryd a ble roedd ei farwolaeth, a sut.  Dyw e ddim yn edrych ar unrhyw faterion o ran cyfrifoldeb neu fai.  Bydd y ffordd y mae'r gwrandawiad yn cael ei gynnal a'r mathau o gwestiynau'n adlewyrchu hyn.  Byddan nhw'n gwestiynau syml a ffeithiol, a'r cyfan fydd eisiau ichi'i ddweud yw'r hyn a ddigwyddodd, fel rydych chi'n ei gofio.

Pan ddaw hi'n amser i roi'ch tystiolaeth, bydd rhaid i chi dynnu llw neu gadarnhau y byddwch chi'n dweud y gwir.  Mae modd i chi wneud hynny ar y llyfr sanctaidd o'ch dewis neu mewn ffordd sydd ddim yn grefyddol.

Bydd y Crwner yn mynd trwy'ch datganiad gyda chi.  Hwyrach y bydd e'n gofyn i chi ddarllen eich datganiad yn uchel, neu efallai bydd e'n ei ddarllen, gan roi'r cyfle i chi gadarnhau neu newid rhywbeth, neu ychwanegu ato.  Wedi hynny, bydd e'n gofyn unrhyw gwestiynau a fo gyda fe, ac yn rhoi'r cyfle i unigolion eraill sydd gyda budd yn y llys i ofyn eu cwestiynau nhw.  Mae 'unigolion sydd gyda budd' yn cynnwys teulu'r unigolyn sydd wedi marw.  Weithiau bydd pobl eraill hefyd, gan ddibynnu ar amgylchiadau'r farwolaeth.  Os cewch chi gwestiwn sydd tu allan i'ch maes o arbenigedd, neu dydych chi ddim yn cofio, mae popeth yn iawn i ddweud hynny.

Os oes angen i chi roi gwybodaeth dechnegol neu feddygol, esboniwch yr hyn rydych chi wedi'i ddweud fel bydd y teulu a phobl eraill sydd ddim yn arbenigwyr yn ei ddeall. 

Gadael y cwest:

Unwaith i chi roi'ch tystiolaeth, bydd croeso i chi adael, fel arfer.  Cadarnhewch hynny gyda'r Crwner cyn gadael rhag ofn bydd rhagor o gwestiynau gyda fe.  Serch hynny, bydd pob croeso i chi aros tan ddiwedd y gwest, os dymunwch chi hynny.

Treuliau:

Os byddwch chi wedi gwario arian i deithio i'r llys neu wedi cymryd amser i ffwrdd o'ch gwaith a cholli cyflog oherwydd hynny, bydd hawl gyda chi i hawlio hynny yn ôl.  

Ar gefn y ffurflen mae nodiadau canllaw sy'n nodi'r hyn y mae hawl gyda chi iddo.

 

Os oes unrhyw gwestiynau eraill gyda chi, neu hoffech chi drefnu ymweliad â'r llys, ffoniwch y swyddfa.