Aelodau o'r teulu sy'n dod fel tystion

Mae'n gyffredin, mewn llawer o achosion, y bydd y Crwner yn gofyn i aelod o'r teulu i ddod fel tyst.  Fel arfer, y sawl sydd wedi gwneud y datganiad cefndirol yn dilyn marwolaeth y berthynas.  Nid y berthynas agosaf yw'r tyst bob tro.  Mewn rhai achosion, efallai bydd mwy nag un aelod o'r teulu yn cael cais i ddod – i roi gwybodaeth am y tro olaf iddo/iddi weld y berthynas, er enghraifft.  Bydd croeso i aelodau eraill o'r teulu sydd ddim yn rhoi tystiolaeth i ddod ac i weld yr hyn sy'n digwydd, bod yn gefn, ac i ofyn cwestiynau.

Pwy all fod yn bresennol?

Pan fyddwn ni'n trefnu dyddiad ar gyfer yr ymchwiliad, bydd swyddog yn cysylltu â chi i gadarnhau a oes unrhyw wyliau neu drefniadau eraill ar y gweill gyda chi i gymryd i ystyriaeth.  Wedyn, byddwch chi'n cael llythyr sy'n nodi dyddiad ac amser yr ymchwiliad.  Byddwch gystal â llenwi'r bonyn a'i anfon yn ôl i'r swyddfa.  Hwyrach y bydd eisiau i ni, o bryd i'w gilydd, gyflwyno gŵys ffurfiol i dyst, naill ai trwy'r post neu'i chyflwyno â llaw.  Unwaith eto, llenwch y bonyn ateb a'i anfon yn ôl aton ni.

Pwy all fod yn bresennol?

Rydyn ni'n deall bod rhai pobl yn ei chael hi'n eithaf anodd i siarad am y sawl sy'n annwyl iddyn nhw.  Bydd y Crwner yn deall hyn yn iawn a bydd yn rhoi cymorth i chi wrth i chi roi'ch tystiolaeth.  Yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu, efallai bydd hi'n dda gyda chi ddod â phobl eraill i fod yn gefn i chi, cyfaill, cynrychiolydd undeb, gweithiwr cymorth neu weinidog crefyddol. 

Sut i ddod o hyd i ni:

Gweld arweiniad ar sut i ddod o hyd i ni

Sensitifrwydd yn y cwest:

Deallwn fod rhai pobl yn ei chael yn eithaf anodd siarad am eu hanwyliaid.  Bydd y crwner yn sensitif i hyn a bydd yn eich helpu ac yn eich arwain drwy roi eich tystiolaeth.  Yn ogystal ag aelodau eraill o'r teulu, efallai y byddwch hefyd yn dod â phobl i'ch cefnogi chi, fel ffrind, cynrychiolydd Undeb, gweithiwr cymorth neu Weinidog crefydd.

Cyrraedd y cwest:

Cofiwch gyrraedd o leiaf 10 munud cyn i'r gwrandawiad gychwyn. 

Cod gwisg:

Does dim rheolau o ran gwisg, ond fel arfer bydd pobl yn dewis gwisgo'n eithaf trwsiadus.  Fydd dim eisiau i chi ddod â dim gyda chi.

Cael eich galw i stondin y tystion:

Bydd y Crwner yn eich galw chi i ddod i flwch y tystion i roi'ch tystiolaeth.  Os oes problemau gyda chi o ran symud, neu'ch bod chi'n teimlo'n nerfus iawn, mae modd inni drefnu'ch bod chi'n rhoi'ch tystiolaeth o'ch sedd.  Bydd rhaid i chi dynnu llw neu gadarnhau y byddwch chi'n rhoi tystiolaeth wir.  Mae modd i chi wneud hynny ar y llyfr sanctaidd o'ch dewis neu mewn ffordd sydd ddim yn grefyddol. 

Rhoi eich tystiolaeth:

Bydd y Crwner yn mynd trwy'ch datganiad gyda chi.  Peidiwch â phoeni os na fyddwch chi'n cofio union eiriau'ch datganiad – nid prawf i'r cof mohono!  Bydd cyfle gyda chi i ychwanegu, cadarnhau neu newid unrhyw beth, os dymunwch chi hynny.  Bydd y Crwner, wedyn, yn gofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda fe.  Mewn rhai achosion, efallai bydd pobl eraill yn bresennol sy'n cael y cyfle i ofyn cwestiynau yn ogystal.  A siarad yn gyffredinol, arbenigwyr/gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio i ryw sefydliad a oedd yn dod i gysylltiad â'ch perthynas fydd y person yma. 

Mae'r cwest yn ymchwiliad er mwyn casglu ffeithiau; dyw e ddim yn trafod materion sy'n ymwneud ag atebolrwydd neu fai.  Golyga hyn y byddwch chi'n cael cwestiynau uniongyrchol a ffeithiol, a hynny mewn ffordd barchus.

Mewn rhai amgylchiadau, pan fydd tyst yn ateb cwestiwn yn onest, ond trwy wneud hynny bydd e/hi yn cysylltu'i hunan â throsedd.  Bydd yr unigolyn yn cyfaddef, o'r herwydd, ei fod wedi gwneud rhywbeth sy'n torri'r gyfraith.  Os bydd tyst yn gofyn y math yma o gwestiwn, bydd y Crwner yn cynghori nad oes raid ei ateb.

Gadael y cwest:

Unwaith i chi roi'ch tystiolaeth, bydd croeso i chi adael, fel arfer.  Cadarnhewch hynny gyda'r Crwner cyn gadael rhag ofn bydd rhagor o gwestiynau gyda fe.  Fel arfer, bydd y rhan fwyaf o deuluoedd yn dewis aros ar gyfer gweddill yr ymchwiliad a'r canlyniad.  

Treuliau:

Os byddwch chi wedi gwario arian i deithio i'r llys neu wedi cymryd amser i ffwrdd o'ch gwaith a cholli cyflog oherwydd hynny, bydd hawl gyda chi i hawlio hynny yn ôl

Gallwch hefyd gael copïau o'r uchod gan y clerc llys pan fyddwch yn bresennol.

 

Yn anffodus, byddwn ni'n talu treuliau teithio a choll enillion ar gyfer pobl sy'n cael eu galw i'r llys yn unig.  Pan fydd aelodau eraill o'r teulu yn dewis dod i wylio neu i fod yn gefn i rywun, nhw sy'n gyfrifol am eu costau'u hunain.