Beth i'w ddisgwyl yn ystod y gwrandawiad
Gwrando ar y dystiolaeth
Bydd nifer o dystion yn y cwêst. Bydd y Crwner yn galw pob un yn ei dro ac yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yn mynd trwy'r datganiadau neu'r adroddiadau maen nhw wedi'u paratoi ymlaen llaw. Bydd y Crwner, wedyn, yn gofyn unrhyw gwestiynau sydd gydag ef. Yna bydd pobl sy'n bresennol yn y llys sydd â 'diddordeb priodol', ym marn y Crwner, yn cael gofyn cwestiynau.
A chithau'n rheithiwr, os oes cwestiwn gyda chi sydd ddim wedi cael ei ateb, fe gewch ei ofyn. Bydd y Crwner yn rhoi cyfle ar ddiwedd tystiolaeth pob tyst i chi wneud hynny. Bydd llyfr nodiadau yn cael ei roi i chi - efallai y byddwch chi am nodi pwyntiau allweddol, yn enwedig os yw'n achos hir. Efallai y bydd gofyn i chi edrych ar ddogfennau neu ffotograffau hefyd.
Gwneud eich penderfyniad
Unwaith y bydd yr holl dystiolaeth wedi cael ei chlywed, bydd y Crwner yn crynhoi'r ffeithiau er mwyn eich atgoffa chi ohonyn nhw. Bydd yn rhoi dewis o gasgliadau posibl i chi a chyfarwyddyd ynglŷn â sut mae dod i benderfyniad.
Bydd yr holl reithwyr wedyn yn mynd allan i ystafell ar wahân ac yn trafod y dystiolaeth. Bydd y Crwner yn rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau i wneud hyn a sut i ddod i ben â phethau os ydych chi'n anghytuno. Pan fyddwch chi i gyd wedi dod i benderfyniad, bydd un o'r rheithwyr yn llenwi ffurflen sy'n nodi'r canfyddiadau ffeithiol a'r casgliad. Byddwch chi i gyd yn mynd yn ôl i mewn i'r llys, a bydd un o'r rheithwyr yn darllen y ffurflen yn uchel.
Gall gwneud y penderfyniadau yma gymryd peth amser. Os yw'n parhau dros amser cinio, byddwn ni'n darparu cinio ar eich cyfer chi (brechdanau, ffrwythau a chacennau). Os oes unrhyw ofynion dietegol arbennig gyda chi, rhowch wybod i'r clerc. Os yw'n parhau am fwy na diwrnod, byddwch chi'n mynd adref dros nos fel arfer.
Unwaith y bydd hyn wedi ei wneud, bydd y Crwner yn gwneud rhai sylwadau i gloi a byddwch chi'n rhydd i fynd. Mae'n bwysig peidio â datgelu'r hyn a drafodoch chi wrth ddod i benderfyniad, hyd yn oed ar ôl i'r achos ddod i ben.
Os oes anghenion ymarferol neu broblemau gyda chi yn ystod y cwêst, rhowch wybod i dywysydd y llys - rydyn ni yma i helpu. Gall tystiolaeth mewn cwestau beri gofid. Os ydych chi'n teimlo'n ofidus yn ystod neu ar ôl y cwêst, bydd modd i ni drefnu i chi siarad â rhywun yn gyfrinachol a derbyn cefnogaeth.