Os cewch chi'ch derbyn i'r rheithgor
Os cewch chi'ch derbyn i'r rheithgor, byddwn ni'n ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi. Bydd eich llythyr yn cynnwys taflen gyda rhagor o wybodaeth am y system gwest, map a gwybodaeth ynglŷn â hawlio treuliau.
Mae'n bwysig iawn i chi fod yn bresennol ar y diwrnod penodedig. Os bydd problem yn codi cyn y cwêst, er enghraifft, os ydych chi'n mynd yn sâl, rhowch wybod i ni ar unwaith. Efallai bydd modd eich esgusodi chi neu ohirio eich gwasanaeth.
Os na fyddwch chi'n dod ar y diwrnod, heb ddweud dim, mae'n bosibl y bydd yr Heddlu yn dod â chi i'r llys.