Beth i'w wneud ar ôl i chi gael gwŷs rheithgor

Mae'r dudalen yma'n egluro beth i'w wneud os byddwch chi'n derbyn gwŷs yn y post i wasanaethu ar reithgor.

Pam rydw i wedi derbyn gwŷs?

Mae'ch enw wedi cael ei ddewis ar hap oddi ar y gofrestr etholiadol.  Bydd gofyn i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gymwys i bleidleisio yn y DU wasanaethu ar reithgor ar ryw adeg yn eu bywydau.  Mae'n gyfraniad pwysig i'n cymdeithas a'n system gyfiawnder.

Sut rydw i'n llenwi'r ffurflen?

Mae'ch gwŷs rheithgor yn cynnwys dwy dudalen.  Mae'r clawr (y dudalen gyntaf) yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â ble a phryd y bydd gofyn i chi wasanaethu.  Mae'r ail dudalen yn ffurflen bydd angen i chi'i llenwi a dychwelyd yn yr amlen sydd wedi'i darparu.  Hefyd bydd llythyr eglurhaol a thaflen wybodaeth fydd yn ceisio ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi ar y cam yma.

I ddechrau, rhowch eich dyddiad geni a'ch rhif ffôn ar frig y ffurflen. 

 Mae cwestiwn 1 yn gofyn a ydych chi'n gymwys i wasanaethu fel rheithiwr.  Ticiwch naill ai YDW neu NAC YDW.  I fod yn gymwys, rhaid i chi fodloni'r gofynion canlynol:

  • Bod rhwng 18 a 76 oed ar ddyddiad dechrau eich gwasanaeth
  • Wedi'ch cofrestru i bleidleisio yn y DU 
  • Wedi byw yn y DU am o leiaf pum mlynedd ar ôl troi'n 13 oed

Dydy'r bobl ganlynol ddim yn gymwys i fod yn rheithwyr:

  • Pobl sydd ar fechnïaeth
  • Pobl sydd wedi bod yn y carchar neu sydd wedi bod yn destun gorchymyn cymunedol o fewn y 10 mlynedd diwethaf 
  • Pobl sydd wedi cael dedfryd o garchar o 5 mlynedd neu fwy
  • Pobl sy'n cael triniaeth feddygol barhaus ar gyfer anhwylder meddwl
  • Pobl sydd ddim â'r gallu i reoli eu heiddo a'u materion

Caiff personél milwrol amser llawn a Chrwneriaid a'u staff wasanaethu os ydyn nhw'n dymuno, ond mae modd eu hesgusodi os ydyn nhw'n gofyn am hynny.

Os nad ydych chi'n gymwys, rhowch y rheswm yng nghwestiwn 2.  Os ydych chi'n gymwys, gadewch gwestiwn 2 yn wag.

Os ydych chi'n gymwys, ond rydych chi am gael eich esgusodi rhag gwasanaethu ar reithgor, rhowch y rheswm yng nghwestiwn 3.  Rhowch gymaint o fanylion ag sy'n bosibl, gan nodi a ydych chi am gael eich esgusodi yn barhaol neu dros dro.  Rhaid i'ch rheswm dros gael eich esgusodi fod o ddifrif.

Llofnodwch y ffurflen a'i dychwelyd yn yr amlen barod.  Dylech chi wneud hyn yn syth ar ôl i chi dderbyn y ffurflen.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Bydd Swyddfa'r Crwner yn edrych ar eich ffurflen ac yn penderfynu gwneud un o'r canlynol:

  1. Eich derbyn i'r rheithgor.
  2. Gohirio'ch gwasanaeth.
  3. Eich esgusodi rhag gwasanaethu.

Byddwch chi'n derbyn llythyr gyda'r penderfyniad cyn pen wythnos o ddychwelyd eich ffurflen.  Os oes cwestiynau gyda ni am yr hyn rydych chi wedi'i roi ar y ffurflen, byddwn ni'n eich ffonio chi i'w drafod.

Beth fydd yn digwydd os na fydda i'n ymateb?

Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n ymateb i'r wŷs a rhoi gwybodaeth gywir.  Os na wnewch chi hynny, bydd gan y Crwner y pŵer i drefnu bod yr Heddlu yn dod â chi i'r llys a byddwch chi'n gorfod talu dirwy. 

Os ydych chi ar wyliau pan fydd y ffurflen yn cyrraedd, neu os oes rheswm da arall gyda chi dros beidio ag ateb ar unwaith, peidiwch â chynhyrfu.  Anfonwch ef cyn gynted ag y gallwch chi.