Os ydych chi'n cael eich esgusodi rhag gwasanaethu
Os nad ydych chi'n gymwys i wasanaethu, neu os yw'r Crwner yn cydsynio â'ch rheswm dros ofyn am gael eich esgusodi, byddwn ni'n ysgrifennu atoch chi i ddweud nad oes angen i chi ddod i'r llys.
Does dim angen i chi wneud unrhyw beth arall. Fyddwn ni ddim yn gofyn i chi wasanaethu eto yn y dyfodol. Mae'n bosibl y byddwch chi'n cael gwŷs o'r llys troseddol yn y dyfodol gan fod gydag yntau system rheithgor sydd ar wahân i'n system ni. Byddai angen i chi egluro'ch sefyllfa iddyn nhw a gofyn am gael eich esgusodi.