Trosolwg o Ddyddiadur y Crwner
Mae'r tudalennau yma'n dangos y cwestau sydd wedi'u rhestru ar gyfer gwrandawiad dros y mis nesaf. Mae Cwestau cymhleth / Rheithgor sy'n debygol o bara am gyfnod hwy, a'u bod wedi cael eu trefnu ymlaen llaw, hefyd i'w gweld ar dudalen arall.
Os caiff cwêst ei rhestru ar fyr rybudd, efallai na fydd hi'n ymddangos yn y dyddiadur ar-lein. Efallai fydd y dyddiadau ddim yn adlewyrchu unrhyw rai sydd wedi'u canslo ar fyr rybudd chwaith. Os ydych chi'n poeni nad yw cwêst mewn perthynas â rhywun yn eich teulu yn y rhestr, neu os ydych chi'n bwriadu dod i wylio a'ch bod chi eisiau cadarnhau bod y gwrandawiad yn mynd yn ei flaen, croeso i chi ffonio'r swyddfa ar y rhifau sydd wedi'u nodi ar y dudalen Sut mae cysylltu â'r Crwner a Swyddogion y Crwner.
Mae Llys y Crwner yn llys agored ac mae hawl gan aelodau o'r cyhoedd (gan gynnwys aelodau o'r wasg) ddod os ydyn nhw'n dymuno. Gofynnwn ni i'r ymwelwyr i gyd i fod yn ystyriol o anghenion y teulu sydd yn ei alar – darllenwch y ceisiadau yn y canllaw ar-lein ar gyfer dod i'r llys.