Swyddfa Crwner Canol De Cymru
Staff Cymorth y Swyddfa
Mae gan y Crwner garfan o staff cymorth yn ei swyddfa ym Mhontypridd. Bydd y garfan yma'n rhoi cymorth i'r Crwner ynglŷn â pharatoi ffurflenni a gwaith papur, trefnu ymchwiliadau, a darparu copïau neu adroddiadau, ac ati. Dyma'r garfan y byddwch chi'n siarad â hi pan fyddwch chi'n cysylltu â'r swyddfa (gweler isod am fanylion cyswllt).
Pwy yw pwy yn Ardal Crwner Canol De Cymru
A ninnau'n awdurdodaeth arbennig o brysur, sy'n gwasanaethu ardal ddaearyddol fawr, mae gyda ni garfan o Grwneriaid, sy'n cael ei harwain gan Uwch Grwner a Chrwner Ardal i ddarparu gwasanaeth parhaus.
Uwch Grwner Dros Dro Ei Mawrhydi: Mr Graeme Hughes
Crwner Ardal Ei Mawrhydi :Mrs Patricia Morgan
Crwners ei Fawrhydi: Dr Sarah-Jane Richards, Ms Rachel Knight, Mr David Regan, Mrs Gaynor Kynaston, Ms Kerrie Burge, Mr Andrew Morse a Mr Gavin Knox