Gwaith Swyddogion y Crwner
Mae'r Crwner yn cael cymorth carfan o swyddogion y Crwner. Yn Ardal Crwner Canol y De, mae Heddlu De Cymru a Heddlu Dyfed Powys yn eu cyflogi.
Maen nhw'n ymchwilio i amgylchiadau marwolaethau sy'n mynd i sylw'r Crwner o dan ei gyfarwyddyd, a byddan nhw'n delio'n uniongyrchol â theulu'r unigolyn sydd wedi marw. Maen nhw'n cael eu hyfforddi'n arbennig i weithio gyda theuluoedd yr ymadawedig, yn trefnu i'r corff gael ei adnabod, ac yn gwneud ymholiadau ar ran y Crwner.