Pwy yw'r Crwner? Beth mae'n ei wneud?

Beth yw Crwner?

Mae crwneriaid yn swyddogion ynadol, sy'n golygu nad ydyn nhw'n atebol i unrhyw un arall. Serch hynny, mae rhaid iddyn nhw ddilyn y deddfau a'r rheoliadau perthnasol.

Cyfreithwyr fel arfer yw Crwneriaid. Bydd yr Awdurdod Lleol yn ei benodi, gyda chymeradwyaeth y Prif Grwner a'r Arglwydd Ganghellor.

Bydd Uwch Grwner ym mhob Ardal Crwner.  Mewn ardaloedd mwy, efallai bydd Crwner Ardal yn cynorthwyo'r Uwch Grwner, ynghyd â charfan o Grwneriaid Cynorthwyol.  Bydd yr Awdurdod Lleol yn penodi Crwneriaid Ardal a Chrwneriaid Cynorthwyol, a bydd y Prif Grwner a'r Arglwydd Ganghellor yn rhoi sêl bendith.  Maen nhw'n gymwysedig yn yr un modd, ac mae gyda nhw'r un pwerau â'r Crwner wrth ddelio â marwolaethau ac ymchwiliadau.

Beth mae'r Crwner yn ei wneud?

Mae pob Uwch Grwner yn gyfrifol am ardal ddaearyddol.  Mae Ardal Canol De Cymru'n cynnwys yr awdurdodau lleol canlynol:  Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Dinas Caerdydd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, Cyngor Sir Powys, Cyngor Rhondda Cynon Taf, a Chyngor Bro Morgannwg.  Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Perthnasol ar gyfer Ardal Canol De Cymru.

Bydd Crwneriaid yn ymchwilio i bob achos o farwolaeth os yw'r achos yn anhysbys, o natur dreisgar neu annaturiol neu lle mae'r unigolyn wedi marw tra'i fod yng ngwarchodaeth y wladwriaeth.

Fydd y Crwner ddim yn gwybod am bob marwolaeth. Yn y rhan fwyaf o achosion, gall meddyg yr ymadawedig, neu feddyg ysbyty sydd wedi bod yn trin yr ymadawedig, roi achos marwolaeth a chyhoeddi tystysgrif feddygol.

Mae llawer o amgylchiadau gwahanol le mae rhaid i'r Crwner gael gwybod achos y farwolaeth (gweler y rhestr sy'n rhoi enghreifftiau o amgylchiadau ar gyfer atgyfeirio).

Caiff manylion eu rhoi i'r Crwner fel arfer gan yr heddlu neu gan y meddyg sy'n cael ei alw i'r farwolaeth. Bydd meddyg hefyd yn nodi marwolaeth y claf os yw'n annisgwyl lle nad yw achos marwolaeth yn hysbys.

Pan fydd marwolaeth wedi mynd i sylw'r Crwner, bydd rhaid i'r cofrestrydd lleol o enedigaethau a marwolaethau aros i'r Crwner ddod i ben â'i ymholiadau cyn cofrestru'r farwolaeth.  Caiff gwaith papur ei gyflwyno sy'n rhoi modd i fwrw ymlaen â'r angladd  Mewn rhai achosion, efallai bydd y Crwner yn agor cwêst sy'n ymchwiliad barnwrol i'r farwolaeth.

Mae'r tudalennau eraill ar y wefan yma yn esbonio'r posibiliadau gwahanol yn llawn, a'r amserlenni disgwyliedig. Ym mhob achos, bydd y Crwner yn ceisio tarfu cyn lleied ag y bo modd ar drefniadau angladd y teulu, tra'i fod yn gofalu bod yr ymchwiliadau'n effeithiol a'u bod nhw'n cael eu cwblhau.

Crwneriaid a'r Awdurdod Lleol  

Mae Crwneriaid yn aelodau o'r farnwriaeth, a dydyn nhw ddim yn cael eu cyflogi gan yr Awdurdod Lleol. Serch hynny, mae'r Awdurdod Lleol yn ariannu gwasanaeth y Crwner ac mae staff y swyddfa ar lyfrau'r Awdurdod Lleol.

Hysbysiad Preifatrwydd -Gwasanaeth y Crwner 2022