Gwasanaethu fel rheithiwr yn llys y Crwner

 

Yn y rhan fwyaf o gwestau, fydd dim rheithgor, a'r Crwner fydd yn dyfarnu'r achos ar ei ben ei hun.   Serch hynny, mewn nifer fach o gwestau, mae angen rheithgor.  Bydd hyn yn digwydd os bu farw'r person yn y ddalfa/dan warchodaeth, a dydy hi ddim yn glir a yw'r farwolaeth o ganlyniad i achosion naturiol neu'n gysylltiedig â'i weithredoedd ei hun (neu rai pobl eraill) yn y gwaith.  Efallai bydd y Crwner hefyd yn penderfynu defnyddio rheithgor mewn achosion eraill oherwydd ei fod yn teimlo bod rheswm digonol i wneud hynny.

Rydyn ni'n dilyn yr un drefn â llysoedd eraill i alw aelodau o'r cyhoedd i wasanaethu ar reithgor.  Maen nhw'n cael eu dewis ar hap oddi ar y gofrestr etholiadol.  Mae'r rheithwyr yn gwrando ar y dystiolaeth a phenderfynu ar y canfyddiadau ffeithiol a chasgliad y cwest.

Mae gwasanaeth rheithgor yn ddyletswydd ddinesig bwysig.  Weithiau mae modd iddo fod yn heriol.  Serch hynny, mae llawer o'n rheithwyr hefyd yn cael y profiad o gymryd rhan weithredol yn y system gyfiawnder yn un boddhaol ac ystyrlon.  Rydyn ni'n ddiolchgar i'n rheithwyr am y rhan hanfodol maen nhw'n ei chwarae ac yn rhoi pob cymorth posibl iddyn nhw.

Mae'r adran yma o'r wefan yn egluro beth i'w wneud os ydych chi'n cael gwŷs i wasanaethu ar reithgor a beth i'w ddisgwyl yn y llys.