Os cewch chi'ch derbyn i'r rheithgor

Beth ddylwn i ei wisgo/ddod ag ef?

Does dim côd gwisg ffurfiol ar gyfer llys y Crwner.  Serch hynny, bydd teulu'r person a fu farw yn bresennol, ac rydyn ni'n gofyn i reithwyr wisgo'n weddol drwsiadus er parch.  Does dim angen gwisgo siwt - bydd dillad trwsiadus arferol yn iawn.

Dewch â dogfen adnabod sy'n cynnwys ffotograff ar y diwrnod cyntaf.  Os nad oes dogfen adnabod gyda llun gyda chi, dewch â bil neu gyfriflen banc sy'n dangos eich enw a'ch cyfeiriad.

Yn aml, rhaid treulio amser yn aros, felly efallai byddwch chi eisiau dod â llyfr neu rywbeth arall i'ch diddanu chi tra byddwch chi'n aros.  Byddwn ni'n darparu te, coffi a dŵr.  Cewch chi ddod â phecyn bwyd os ydych chi'n dymuno, neu brynu bwyd yn un o'r caffis gerllaw. 

Ble ddylwn i ddod?

Byddwn ni'n gofyn i chi ddod i Swyddfa'r Crwner, Stryd y Llys, Pontypridd. Mae cyfarwyddiadau ar ein tudalen 'Sut i gael hyd i ni'.  Ar ôl cyrraedd, byddwch chi'n cael eich cyfeirio at y Llys lle bydd eich dyletswyddau a'ch swyddogaeth yn cael eu hegluro.

Ydy hi'n bosibl na fydd f'angen i ar ôl dod i'r Llys?

Mae rheithgor Crwner yn cynnwys rhwng 7 ac 11 o bobl.  Rydyn ni bob amser yn galw mwy na 11 o reithwyr rhag ofn bydd salwch neu broblemau munud olaf.  Felly, efallai na fydd angen i chi wasanaethu ar y diwrnod hwnnw.  Byddwn ni'n gofyn am wirfoddolwyr i sefyll i lawr.  Pe byddai'n anghyfleus iawn i chi sefyll i lawr - er enghraifft, os ydych chi eisoes wedi aildrefnu eich amserlen gwaith - fydden ni ddim yn eich dewis chi.

Bydd gofyn i chi sefyll i lawr hefyd os oes gwrthdaro buddiannau ynghylch yr achos sy'n cael ei glywed.  Er enghraifft, efallai'ch bod chi'n gweithio i ysbyty neu heddlu sy'n gysylltiedig â'r achos, neu efallai eich bod chi'n adnabod un o'r tystion. 

Os na fydd eich angen chi ar y diwrnod, byddwn ni'n talu treuliau teithio ynghyd ag unrhyw enillion a golloch chi ar y diwrnod.  Byddwch chi'n cael eich galw yn ôl ar ddyddiad arall i gyflawni eich rhwymedigaeth i wasanaethu.

Tyngu llw

Unwaith i ni sefydlu pwy fydd y rheithwyr, byddwch chi'n cael eich tywys i ystafell y llys.  Bydd rhaid i chi dyngu llw neu gadarnhau y byddwch chi'n rhoi tystiolaeth gywir yn y cwêst yn unol â'r dystiolaeth.  Mae modd i chi wneud hynny ar y llyfr sanctaidd o'ch dewis neu mewn ffordd sydd ddim yn grefyddol. 

Dechrau'r achos

Bydd y Crwner yn dechrau'r cwêst drwy esbonio beth yw cwêst yn ôl y gyfraith a thrwy roi crynodeb o'r ffeithiau sy'n ymwneud â'r achos.  Dim ond rhoi'r cefndir bydd e ar y cam yma, nid rhoi tystiolaeth. 

Bydd e'n esbonio rhai rheolau pwysig iawn i reithwyr.  Mae'n hanfodol nad ydych chi'n trafod yr achos gydag unrhyw un arall, gan gynnwys eich teulu neu'ch partner.  Ddylech chi ddim gwneud ymchwil annibynnol, er enghraifft ar y rhyngrwyd.  Ddylech chi ddim ceisio cyfathrebu gydag unrhyw un sy'n gysylltiedig.  Os gwnewch chi hynny, gall effeithio ar yr achos a gall hyd yn oed olygu ei fod e'n cael ei derfynu a'i ailgychwyn gyda rheithgor newydd.  Efallai y byddwch chi hefyd yn wynebu cosbau.  Cymerwch gyfarwyddiadau'r Crwner ynglŷn â'r materion yma o ddifrif.

Unwaith y bydd y Crwner wedi rhoi ei gyflwyniad, bydd yn galw'r tyst cyntaf a bydd y dystiolaeth yn dechrau.