Hawlio treuliau

Mae'r lwfansau y bydd modd i chi'u hawlio wedi'u pennu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac maen nhw'r un fath ar gyfer rheithwyr ym mhob llys arall.  Eu nod yw sicrhau bod rheithwyr yn cael eu had-dalu mewn modd teg

Colli enillion:

Os ydych chi'n gyflogedig, a dydy'ch cyflogwr ddim yn fodlon talu cyflog i chi tra byddwch chi ar wasanaeth rheithgor, byddwch chi'n cael cyflwyno cais am golli enillion.  Bydd eich cyflogwr yn ardystio eich cyflog net (neu os ydych chi'n hunangyflogedig, fe gewch chi hunan-ardystio) a byddwch chi'n cael y swm yna yn ôl. 

  • Mae terfyn uchaf sydd wedi'i bennu gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder o £64.95 y dydd
  • Pan fydd cwestau'n para mwy na 10 diwrnod,  £129.91 fydd y swm ar gyfer yr 11eg diwrnod a'r diwrnodau dilynol
  • Does dim modd i ni dalu mwy na hyn, hyd yn oed os yw eich cyflog arferol yn uwch.  Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl sy'n ennill cyflogau uwch ar eu colled ac rydyn ni'n ymddiheuro am hyn.

Costau gofal plant:

Os oes angen i chi dalu am ofal plant , byddwn ni'n ad-dalu'ch treuliau, hyd at yr un terfynau.  Rhaid i chi gyflwyno derbynneb gan ddarparwr gofal plant cofrestredig.  Os ydych chi'n gwneud cais am golli enillion a gofal plant, chaiff y cyfanswm ddim bod yn uwch na'r terfyn.

Treuliau trafnidiaeth gyhoeddus:

Gallwch chi hawlio'ch arian yn ôl am deithio dosbarth safonol ar drafnidiaeth gyhoeddus.  Cadwch bob derbynneb.  Dydyn ni ddim yn talu am gostau tacsis.

Treuliau teithio mewn car:

Cewch chi hawlio'r gost am daith mewn car ar 45c y filltir.  Byddwn ni'n cyfrifo hyn drosoch chi, yn seiliedig ar gôd post eich cartref.  Cewch chi hefyd hawlio arian yn ôl am barcio  - Unwaith eto, cadwch eich derbynebau.  Dylech chi ddefnyddio maes parcio pris rhesymol. Fyddwn ni ddim yn talu unrhyw ddirwyon parcio neu ffioedd am docynnau sydd wedi'u colli.

Treuliau cinio:

Byddwn ni'n rhoi lwfans o ddim mwy na £5.71 y dydd i chi am ginio, ac eithrio ar y diwrnodau rydyn ni'n darparu bwyd.    Cewch chi wedyn ddewis ble hoffech chi fwyta a faint hoffech chi'i wario.  Bydd angen i chi gyflwyno derbynebau yn dystiolaeth. 

Amserlen talu:

Bydd eich arian yn eich cyrraedd chi tua 2-3 wythnos ar ôl i chi gyflwyno'ch cais ar ddiwedd y cwêst.  Os bydd y cwêst yn para am fwy na phythefnos, gallwch chi wneud un cais hanner ffordd drwyddo ac ail gais ar y diwedd fel nad ydych chi'n aros yn rhy hir am eich arian.