Pa ran sydd i'r perthnasau?

Yng ngolwg cyfraith crwneriaid, mae gan rai pobl statws arbennig.  Unigolion sydd gyda budd yw'r enw amdanyn nhw, ac mae hawl gyda nhw i fod yn rhan o'r gwêst mewn ffyrdd penodol.

Pwy sy'n cael eu hystyried yn "bobl â diddordeb priodol" ?

Yn awtomatig, bydd gŵr, gwraig, partner sifil, rhiant neu blentyn y person sydd wedi marw yn Unigolyn sydd gyda budd.  Bydd y Crwner, fel arfer, hefyd yn cyfrif brodyr, chwiorydd a phartneriaid tymor hir yn unigolion sydd gyda budd, ac os rhywun sy'n perthyn o bell, megis wyrion ac wyresau yw'r berthynas agosaf, bydd y Crwner, fel arfer, yn rhoi'r statws yma iddyn nhw yn ogystal.

Pa wybodaeth y gall perthnasau gael mynediad iddi cyn y gwrandawiad?

Cyn y gwrandawiad, maw hawl gan unigolion sydd gyda budd fynnu copïau o'r adroddiadau a datganiadau i gyd, fel sydd wedi'i nodi yn  yr adran o'r enw 'datgelu'.  Does dim hawl awtomatig i gael yr wybodaeth yma, ond bydd y Crwner yn dueddol o gytuno i'w rhyddhau/eu datgelu. 

Mae perthnasau yn iawn i ofyn cwestiynau wrth yr heuwr:

Yn y gwrandawiad, caiff unigolion sydd gyda budd ofyn cwestiynau i'r tystion.  Bydd y Crwner yn rhoi gwybod iddyn nhw bryd y cân nhw wneud hynny.  Y drefn arferol yw bydd y tyst yn mynd trwy'i ddatganiad neu adroddiad; bydd y Crwner yn gofyn ei gwestiynau yntau, cyn rhoi cyfle i unigolion sydd gyda budd ofyn eu cwestiynau hwythau.

Cynrychiolaeth gan berthnasau:

Mae gan unigolion sydd gyda budd hawl i gael rhywun cyfreithiol i'w cynrychioli, os dyna'u dewis.

Ar ôl y gwêst, byddan nhw'n cael gofyn am gopïau o'r adroddiadau a'r datganiadau os na chawson nhw monyn nhw cyn hynny.  Fel y nodwyd yn barod, efallai bydd rhaid talu am hynny.

Efallai bydd statws unigolion sydd gyda budd gyda phobl eraill yn y gwêst am resymau eraill.  Bydd cyfle gyda nhw i ofyn cwestiynau yn ogystal.