Atal marwolaethau yn y dyfodol

Mae pŵer cyfreithiol gan y Crwner - ac mae dyletswydd arno - i baratoi adroddiad os ydy hi'n ymddangos bod perygl o farwolaethau eraill yn digwydd mewn amgylchiadau tebyg.  Mae hyn yn cael ei alw'n "Adroddiad Rheoliad 28" neu "Adroddiad i Atal Marwolaethau yn y Dyfodol".

Caiff yr adroddiad ei anfon at y bobl neu i'r sefydliadau sydd mewn sefyllfa i gymryd camau i leihau'r perygl yma.  Yna, bydd rhaid iddyn nhw ateb cyn pen 56 niwrnod gan nodi pa gamau maen nhw'n bwriadu'u cymryd.

Bydd y Crwner yn anfon copi o'r adroddiad a'r atebion sydd wedi cael eu derbyn i'r teulu.  Bydd enwau'r bobl a'r sefydliadau sy'n derbyn yr adroddiad (ond dim manylion am eich anwylyn) yn cael eu rhoi ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel ei fod ar gofnod cyhoeddus y bu rhaid iddyn nhw ateb yr adroddiad.