Cael tystysgrif marwolaeth

Pan fydd y gwêst wedi dod i ben, bydd modd i chi gael y dystysgrif marwolaeth derfynol. 

Bydd staff y llys yn cofrestru'r farwolaeth i chi, gan ddefnyddio'r wybodaeth o'r gwrandawiad.  Fydd dim rhaid i chi fynd i Swyddfa'r Cofrestrydd.

Arhoswch 10 diwrnod oddi ar ddiwedd y gwêst ar er mwyn rhoi amser i'r wybodaeth gael ei chofnodi yn y gofrestr.  Yna, bydd modd ichi ffonio'r Gofrestrfa ac archebu tystysgrifau i gael eu hafon atoch chi.  Byddwn ni'n codi £11.00 am bob tystysgrif, a bydd modd talu â cherdyn debyd dros y ffôn.  Os bydd hi'n well gyda chi, croeso i chi anfon siec.