Hygyrchedd a chymorth i bobl sy'n siarad ieithoedd eraill

Mae gan bawb yr hawl i fod yn bresennol yn y llys, ac i fod yn rhan o broses yr ymchwiliad.  Os oes anghenion gyda chi o ran materion mynediad/hygyrchedd nad ydyn ni'n sôn amdanyn nhw ar y dudalen yma, rhowch wybod i ni a byddwn ni'n trafod posibiliadau gyda chi.

Mae'n hystafelloedd llys i gyd yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn.  Mae tŷ bach sy'n addas i bawb gerllaw.

Mae system dolen glyw i'w chael yn yr ystafelloedd llys

Mae modd cyflwyno copïau o adroddiadau a datganiadau mewn print mwy ar gais.

Byddwn ni'n trefnu cyfieithydd os nad yw aelodau o deulu yn medru'r Saesneg.  Ydych chi'n gwybod bod angen cyfieithydd arnoch chi neu ar eich teulu? Rhowch wybod i ni ar unwaith.